Beth yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn fudd i bobl sydd mewn gwaith neu allan o waith.
Disgwylir i bobl sy’n gwneud cais newydd am fudd-dal hawlio Credyd Cynhwysol.
Mae’n wahanol oherwydd:
- Dim ond un taliad misol y byddwch chi’n ei gael ar gyfer eich cartref
- Telir Credyd Cynhwysol i’ch cyfrif banc
- Os oes gennych hawl i gael help gyda’ch rhent, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y taliad misol a bydd yn rhaid i chi dalu’r rhent i United Welsh eich hun
- Bydd yn rhaid i chi wneud cais am eich Credyd Cynhwysol a’i reoli ar-lein
- Bydd angen i chi hawlio rhai budd-daliadau ar wahân o hyd, fel Gostyngiad Treth Gyngor a Thaliad Annibyniaeth Bersonol
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau isod:
- Budd-dal Tai
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gweithio
- Cymorth Incwm
- Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn gysylltiedig ag incwm)
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
Beth allai fy ysgogi i symud ymlaen i Gredyd Cynhwysol?
Newid mewn amgylchiadau; dyma beth allai ysgogi newid:
- Wedi’i gael yn addas ar gyfer gwaith fel bod ESA yn stopio
- Cychwyn neu orffen perthynas
- Profedigaeth
- Newid mewn oriau gwaith
- Colli swydd
- Dod yn ofalwr
- Plentyn ieuengaf yn troi’n bump oed
- Mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl salwch
- Cais newydd am Fudd-dal Tai
- Symud o un Awdurdod Lleol i’r llall
- Newid i lwfans ceisio gwaith a chymorth incwm oherwydd genedigaeth plentyn
Dysgwch sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yma
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnaf i wneud cais am Gredyd Cynhwysol?
Er mwyn gwneud eich proses hawlio mor gyflym a hawdd â phosibl, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth ganlynol:
- Eich rhif Yswiriant Gwladol a rhif Yswiriant Gwladol eich partner
- Eich côd post
- Eich cyfeiriad e-bost (ni allwch hawlio heb un!)
- Eich rhif ffôn (llinell dir neu ffôn symudol)
- Cyfeiriad United Welsh: United Welsh, 13 Heol y Beddau, Caerffili, CF83 2AX
- Eich rhent (cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr o’r swm cywir)
- Dyddiad cychwyn eich tenantiaeth
- Manylion unrhyw blant / perthnasau / pobl eraill sy’n byw gyda chi, gan gynnwys eu henw, dyddiad geni, perthynas â chi ac incwm
- Manylion unrhyw arbedion
- Manylion unrhyw arian arall a dderbyniwch
- Enw a chyfeiriad eich banc, eich rhif cyfrif a’ch cod didoli
Rwy’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf. Ble gallaf ddod o hyd i gefnogaeth ac arweiniad?
Bydd yr offeryn defnyddiol hwn, a ddatblygwyd gan Hyde Housing, yn eich arwain drwy’r broses ac yn eich helpu i gael y cymorth ariannol y mae gennych hawl iddo. Dewch o hyd iddo yma: UNIVERSAL CREDIT SUPPORT (uc-helper.co.uk)