Enter keyword and hit enter

Deddf Rhentu Cartrefi: Mae'r ffordd yr ydych yn rhentu yn newid

Mae’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau yn digwydd eleni.

Bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn newid y ffordd y mae pob landlord yn rhentu eu cartrefi er mwyn gwella sut rydym yn darparu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

Bydd y gyfraith newydd yn weithredol o 1 Rhagfyr 2022.

Pa newidiadau fydd tenantiaid United Welsh yn eu gweld?

  • Byddwch yn cael eich adnabod fel ‘deiliad contract’
  • Byddwch yn cael ‘Contract Meddiannaeth’ (Cytundeb Tenantiaeth oedd e arfer cael ei alw).

Bydd y gyfraith newydd hefyd yn rhoi mwy o sicrwydd i chi, gan gynnwys:

  • Cyd-ddeiliaid contract: Gallwch ofyn i ni ychwanegu rhywun at eich contract yr ydych am fyw gydag ef/hi. Nid oes rhaid i chi ddechrau contract newydd i ofyn am hyn.
  • Hawliau olynu: Mewn rhai amgylchiadau, gallwch drosglwyddo’ch cartref i bobl eraill i barhau i fyw ynddo. Er enghraifft, gallwch ofyn i’ch cartref gael ei drosglwyddo i’ch partner.

Rhaid i United Welsh hefyd barhau i wneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel i fyw ynddo, megis cwblhau ein gwiriadau diogelwch nwy a thrydan.

Os ydych yn byw mewn tai â chymorth, o dan y gyfraith newydd, os ydych yn byw yno am fwy na chwe mis, yn y rhan fwyaf o achosion bydd gennych hawl i’r hyn a elwir yn ‘Gontract Safonol â Chymorth’.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Yn gyntaf, byddwn yn cysylltu â holl denantiaid presennol United Welsh i ofyn am eich caniatâd i dderbyn gwaith papur gennym yn electronig.

Rydym am anfon eich gwaith papur yn electronig oherwydd:

  • Rydym yn lleihau ein hôl troed carbon ac mae argraffu llai o bapur yn well i’r amgylchedd
  • Mae’n haws storio ffeiliau’n electronig, gyda llai o amlenni trwy’ch drws
  • Mae’n arbed arian, y gellir ei ail-fuddsoddi gan ddarparu gwasanaethau cyflymach, gwell i chi.

Cadwch lygad am neges destun gennym ni ac os ydych chi’n hapus i roi eich caniatâd ac yn gallu ateb, yna atebwch YDW.

Os na allwch ateb eich neges destun ond eich bod am roi caniatâd i ni, ffoniwch ni ar 0330 159 6080 (pwyswch 3) neu siaradwch â ni ar
gwe-sgwrs (cliciwch ar yr eicon cylch glas ar waelod ochr dde eich sgrin). Gallwch hefyd anfon e-bost at: tellmemore@unitedwelsh.com

I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Rhentu Cartrefi, ewch i wefan Rhentu Cartrefi Llywodraeth Cymru.

 

The Way you rent is changing & Mae'r ffordd yr ydych chi'n rhentu yn newid