Enter keyword and hit enter

Prydleswyr

Rydym yn cynnig gwasanaeth prydlesol i bobl sydd eisiau rhentu eu cartref ond nad ydyn nhw eisiau’r cyfrifoldeb o weithredu fel landlord.

Bydd United Welsh yn darparu pob gwasanaeth rheoli tenantiaeth, gan gynnwys:

  • Dod o hyd i denant addas
  • Prosesu taliadau rhent a thaliadau gwasanaeth
  • Trefnu gwaith atgyweirio
  • Delio â digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol os ydynt yn codi

Rydym yn codi ffi reoli o 10% (sy’n cael ei dynnu o’r taliad rhent y cytunwyd arno) i ddarparu’r gwasanaeth hwn.

I gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio ein gwasanaeth prydlesol, defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod a bydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad.


Dim ond i gysylltu â’ch cais am brydles y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth, ewch i’n Polisi Preifatrwydd.