Enter keyword and hit enter

Diogelwch tân

Mae diogelwch tân yn dra phwysig i ni yn United Welsh.

Er mwyn eich cadw’n ddiogel os bydd tân, mae’n bwysig gwybod y camau sylfaenol y mae angen i chi eu cymryd i wneud eich cartref yn fwy diogel ac i atal tân:

  • Cynlluniwch sut byddech chi’n dianc pe bai tân. Os ydych chi’n byw mewn tŷ, gwnewch gynllun dianc a’i rannu gyda’r teulu. Os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau neu os oes gennych ardal gymunedol, dewch i wybod cynllun gwacáu eich adeilad
  • Profwch eich larwm mwg yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio a gwnewch yn siŵr bod pob aelod o’ch teulu yn gyfarwydd â’r sain
  • Peidiwch â gadael bwyd pan rydych yn coginio
  • Sicrhewch nad yw canhwyllau ymlaen nac yn agos at unrhyw beth a allai fynd ar dân
  • Sicrhewch nad yw gwresogyddion wedi’u gorchuddio
  • Defnyddiwch uchafswm o un plwg ym mhob soced a pheidiwch byth â’u defnyddio os ydynt yn wlyb
  • Caewch bob drws, diffoddwch a thynnwch y plwg o’ch offer fel setiau teledu bob nos. Cadwch eich ffôn ac unrhyw gymhorthion symudedd gerllaw os oes eu hangen arnoch
  • Diffoddwch a gwaredwch sigaréts yn iawn a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely
  • Cadwch fatsis a thanwyr oddi wrth blant.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch tân yn eich ardal chi, neu gwestiynau am beth i’w wneud os bydd tân, cysylltwch â ni. Bydd ein tîm Cymdogaeth yn hapus i helpu.

 

Gwiriadau diogelwch tân

Mae’r Gwasanaeth Tân yn cynnig ymweliadau diogelwch yn y cartref am ddim. I ofyn am wiriad, ewch i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru neu Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.