Enter keyword and hit enter

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ochr yn ochr â’n Datganiadau Ariannol er mwyn rhoi gwybod i bawb am yr hyn yr ydym yn ei wneud a pha mor dda yr ydym yn perfformio. Fel y gwelwch, rydym wedi bod yn brysur iawn unwaith eto. Gallwch gael rhagor o wybodaeth Cymraeg.

Ein Strategaeth

Mae gennym rai cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y pum mlynedd nesaf er mwyn helpu pawb i fyw bywyd i’r eithaf. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.

Dyfarniadau Rheoleiddio

Rydym yn landlord cymdeithasol cofrestredig, sy’n golygu ein bod yn cael ein rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud Dyfarniad Rheoleiddio yn ein cylch bob blwyddyn ar ôl cynnal asesiad rheoleiddio sy’n archwilio’r ffordd rydym yn gweithredu ac i ba raddau rydym yn cyflawni ein canlyniadau.

Mae’r canlyniadau’n canolbwyntio ar ddarparu cartrefi da a fforddiadwy, llywodraethiant a chyllid. Gallwch ddarllen yr adroddiad diweddaraf  yma.

Hunanwerthusiad

Bob blwyddyn rydym hefyd yn cynnal asesiad hunanwerthuso er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni popeth rydym wedi addo ei gyflawni. Cliciwch yma i ddarllen ein hasesiad hunanwerthuso, sy’n edrych ar gyfres o ganlyniadau ac yn dangos yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a’r gwahaniaeth rydym yn ei wneud, yn ogystal â meysydd y gallai fod angen i ni roi mwy o sylw iddynt.

 

Gwerth am Arian

Mae sicrhau Gwerth am Arian yn bwysig iawn i ni, a dyma’r rheswm dros gyhoeddi’r ddogfen hon bob blwyddyn gan nodi’r ffordd y mae hyn yn sail i bopeth a wnawn.

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae United Welsh wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, cyhyd ag y bo hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.

Mae United Welsh eisoes wedi nodi’r galw presennol am y Gymraeg drwy ymgynghori â’i holl gwsmeriaid. Rydym wedi canfod mai galw cymharol fach sydd amdani yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithio. Drwy gynnal ymgyngoriadau rheolaidd, byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n addasu i unrhyw newidiadau yn y galw am y Gymraeg yn y dyfodol.

Gallwch weld ein Cynllun Iaith Gymraeg yma.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae United Welsh yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gyflogi staff a darparu ei wasanaethau.  Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud y canlynol:

  • Cydnabod bod pawb yn wahanol a thrin y gwahaniaethau hyn â pharch
  • Gwerthfawrogi amrywiaeth pawb rydym yn cydweithio â nhw
  • Byddwn yn cynnal ymgyngoriadau er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau mewn modd agored a theg, ac mewn ffyrdd sy’n addas i’n cwsmeriaid
  • Buddsoddi mewn gweithlu medrus, sefydlog ac amrywiol
  • Diogelu ein staff rhag gwahaniaethu
  • Dim ond yn gweithio gyda phartneriaid sy’n rhannu’r un gwerthoedd cydraddoldeb â ni
  • Herio pob achos o wahaniaethu

Gallwch weld ein polisi yma.

Health & Safety

United Welsh believes that the Health and Safety of its employees, residents, tenants and service users is a fundamental part of United Welsh’s role. The Board and Executive Team take Health and Safety very seriously and acknowledge their legal responsibility to ensure the health and safety and welfare of employees at work, tenants, residents and service users, as well as protecting others who may be affected by United Welsh work activities.

 

You can access our Landlord Health & Safety policy statement here.

You can access our Employer Health & Safety policy statement here.