Enter keyword and hit enter

Byw'n Dda

Thrive yw gwasanaeth llety a chymorth arbenigol United Welsh. Mae ein tîm Byw’n Dda yn gweithio fel rhan o Thrive, gan ddarparu cartrefi a gwasanaethau gwych i dros 800 o denantiaid United Welsh 55 oed a hŷn ar ffurf fflatiau, byngalos, llety cysgodol a chyfleusterau gofal ychwanegol.

Mae ein tîm yma i helpu tenantiaid hŷn i fyw’n dda mewn diogelwch, hapusrwydd ac iechyd da.

 

Gyda’n Cydlynwyr Tai, cefnogir tenantiaid sy’n byw yn ein cynlluniau Byw’n Dda i fyw’n annibynnol, cynnal eu tenantiaethau a gwneud y gorau o’u lles.

Mae gan lawer o gynlluniau gyfleusterau cymunedol fel lolfa preswylwyr a gerddi lle gall pobl wneud ffrindiau a mwynhau gweithgareddau cymdeithasol.

Darganfyddwch fwy am y cartrefi Byw’n Dda rydyn ni’n eu cynnig isod.

 

Connect

Mae Connect yn brosiect hyfryd sy’n rhoi cyfle i denantiaid yn ein cynlluniau Byw’n Dda gysylltu â phobl, lleoedd a gweithgareddau cymdeithasol o’u cwmpas. Mae ein Hwyluswyr Cyswllt yn gweithio gyda Chydlynwyr Tai i helpu tenantiaid i:

  • Ganolbwyntio ar eu lles
  • Gyfarfod pobl newydd
  • Roi cynnig ar bethau newydd
Cael gwybod mwy