Enter keyword and hit enter

Gwasanaeth Dychwelyd pwrpasol

Mae’r gwasanaeth dychwelyd pwrpasol yn cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl a chymdeithasol cymhleth yng Ngwent.

Ar hyn o bryd, gall pobl sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan breswylio y tu allan i ardal Gwent, neu y tu allan i Gymru, i dderbyn triniaeth ddwys.

I bobl ag anawsterau iechyd meddwl cymhleth, sydd hefyd yn profi trallod emosiynol, gall fod yn heriol gadael lleoliad ward.

Yn hanesyddol, bu hefyd yn anodd i wasanaethau lleol gynnig y gefnogaeth ddwys sydd ei hangen ar y garfan hon i symud yn ôl i’r gymuned, yn agosach at adref, gan arwain at unigolion yn dychwelyd i leoliadau gofal iechyd.

Dywedodd Karen Tipple, Dirprwy Gyfarwyddwr Tai Arbenigol, Cymorth a Lles United Welsh:

“Yn United Welsh, rydym yn ymfalchïo yn ein dull o weithio gyda phobl, gan roi cryfderau ac anghenion unigolion wrth galon ein gwasanaeth i sicrhau canlyniadau cadarnhaol iddynt hwy a’u cymunedau.

“Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn defnyddio dull seicolegol gwybodus, gan gynnig cefnogaeth gymunedol fedrus a hyblyg i wella lles a helpu cleifion i drosglwyddo i’r gymuned i fyw bywydau cyflawn yn eu cartrefi eu hunain.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag ABUHB i gefnogi mwy o bobl yng Ngwent.”

Dywedodd Dr Kate Williams, Arweinydd Clinigol a Strategol ar gyfer Rheoli Achos Dwys i ABUHB:

“Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn bartner gyda United Welsh i ddatblygu’r gwasanaeth hwn. Mae pobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl cymhleth yn aml yn eu cael eu hunain mewn lleoliadau ysbyty a all fod ymhell o’r cartref. Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle cyffrous i ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cael ei arwain gan anghenion i bobl yn eu cartrefi eu hunain.

“Mae’n wych cydweithredu â sefydliad sy’n rhannu ein gwerthoedd, ein hymrwymiad a’n hangerdd dros greu cefnogaeth unigol a phwrpasol. Credwn y gall y dull hwn rymuso pobl i deimlo’n hyderus i fyw bywyd ystyrlon yn eu cymuned eu hunain.”

Y gwasanaeth newydd hwn yw’r ail un y mae United Welsh yn ei ddarparu ar ran UBUHB. Yn 2016, gwnaethom agor cynllun tai â chymorth yn Blaina, gan weithio mewn partneriaeth i gleifion symud o leoliadau ward ysbytai hir seiciatryddol yn ôl i fyw yn y gymuned.