Enter keyword and hit enter

Cymorth i deuluoedd sy’n gweithio

Two women and two men wearing grey uniforms smiling at the camera stood next to a white banner

 

Sefydlwyd y tîm Teuluoedd sy’n Gweithio i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio yng Nghasnewydd, Blaenau Gwent, Caerffili a Sir Fynwy i wella ansawdd eu bywyd.

Mae sicrhau cydbwysedd iach yn anodd i deuluoedd sy’n gweithio, sydd yn aml yn jyglo gwahanol flaenoriaethau i gadw pethau i fynd gartref. Gall fod yn anodd dod o hyd i’r amser a’r arian i helpu’ch teulu i ffynnu.

Os ydych chi’n rhan o deulu sy’n gweithio ac sy’n profi problemau gyda gofal plant; cael digon o arian i gefnogi’ch teulu a thalu’r biliau; dyled; cyflogaeth ddiogel; hyfforddiant neu unrhyw beth arall, bydd ein tîm Teuluoedd sy’n Gweithio yn gweithio ochr yn ochr â chi i greu atebion yn eich cymuned a fydd yn eich helpu chi a theuluoedd lleol eraill i wella’ch lles a’ch rhagolygon.

Llenwch ein ffurflen isod a bydd y tîm yn cysylltu.

Fel arall, os ydych chi’n dod o sefydliad ac yr hoffech chi atgyfeirio rhywun arall i’r gwasanaeth Teuluoedd sy’n Gweithio, cliciwch yma.

 

 


Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon i gysylltu â chi am y gwasanaeth Teuluoedd sy’n Gweithio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth, ewch i’n Polisi Preifatrwydd.

Cyflwynir Teuluoedd sy’n Gweithio gan United Welsh, Tai Calon, Tai Sir Fynwy, Tenant Cartrefi Dinas Casnewydd, Charter Housing a Linc Cymru gyda chyllid gan Gronfa Loteri Fawr Cymru.