Enter keyword and hit enter

Plas Hyfryd, Caerffili

Plas Hyfryd exterior United Welsh
Plas Hyfryd, 74 Ffordd y Maes, Caerffili, Morgannwg Ganol, CF83 2BH

Plas Hyfryd is an Extra Care scheme provided by the Thrive team at United Welsh in Caerphilly.

Mae Plas Hyfryd yn lleoliad delfrydol gydag atyniadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr, cefn gwlad hardd ac amrywiaeth o weithgareddau ym Mwrdeistref Caerffili. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleusterau cymunedol gwych, gan gynnwys bwyty sy’n gweini pryd dau gwrs bob amser cinio, dwy lolfa, campfa, golchdy, ystafell wely i westeion, ystafell TG, yn ogystal â gerddi preifat hardd sy’n cael eu cynnal a’u cadw.  Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i denantiaid gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llesiant a chymdeithasol os byddant yn dymuno gwneud hynny.

Prif nodweddion:

  • 49 o fflatiau 1 neu 2 ystafell wely dros bedwar llawr
  • Adeiladwyd yn 2010
  • Staff gofal yn y cartref ar y safle, staff rheoli amhreswyl a gwasanaeth larwm cymunedol
  • Lifftiau
  • Lolfeydd cymunedol, bwyty, golchdy, ystafell wely i westeion, gerddi preifat, siop trin gwallt, campfa, llyfrgell, ystafell TG, storfa sgwteri symudedd, cyfleuster cael bath â chymorth
  • Safle cwbl hygyrch. Pellteroedd: safle bws – 500 llath, siop – 200 llath, tafarn – 100 llath, swyddfa’r post – 500 llath; canol y dref – 2 filltir, meddyg teulu – 200 llath,
  • Gwasanaethau cymdeithasol fel bingo, bore coffi, artistiaid/digwyddiadau elusennol, Clwb Sinema, Clwb Garddio.

Thrive Extra Care Leaflet

Thrive Plas Hyfryd Leaflet (Welsh)