Enter keyword and hit enter

Help gyda chartrefi gwag

Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod bron 23,000 o gartrefi gwag yng Nghymru, ac o gofio bod gennym argyfwng tai sy’n golygu bod angen 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw presennol, mae eiddo gwag hyd yn oed yn fwy o adnodd gwastraff.

Mae eu trawsnewid yn adeiladau y gellir byw ynddynt yn ffordd arloesol o ddarparu cartrefi y mae angen dybryd amdanynt a helpu perchenogion tai i warchod eu hasedau.

Mae United Welsh yn cynnig dau brosiect i drawsnewid eiddo gwag yn gartrefi y gellir byw ynddynt unwaith eto: Cartrefi Gwag Cymru  a phrosiect Homestep Plus, a ddarperir mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Cysylltwch os hoffech siarad â ni am yr hyn y gallai’r prosiectau hyn ei gynnig i chi.