Enter keyword and hit enter

Profiad gwaith

A hoffech gael profiad gwaith gydag United Welsh neu ein his-gwmni atgyweirio, Celtic Horizons.

Yn y gorffennol, rydym wedi cefnogi lleoliadau profiad gwaith i denantiaid, trigolion lleol, myfyrwyr o ysgolion, colegau a phrifysgolion, a graddedigion.

Dyma rai o’r timau sydd wedi cynnig lleoliadau profiad gwaith:

• Y tîm Cymdogaeth, sy’n gofalu am ein tenantiaid ac yn gwella ansawdd bywyd yn ein cymunedau
• Y tîm Cyfathrebu, sy’n hyrwyddo brand United Welsh ac yn rheoli ein sianeli cyfathrebu
• Y tîm Cyllid, sy’n rheoli ein cyfrifon, ein taliadau rhent, ein biliau a’n cynlluniau cyllidebol cyfredol ac ar gyfer y dyfodol
• Y tîm Datrysiadau Digidol, sy’n sicrhau bod ein technoleg a’n systemau’n gweithio’n ddidrafferth ac yn addas ar gyfer y dyfodol
• Celtic Horizons, sy’n gyfrifol am atgyweirio a chynnal a chadw ein cartrefi, yn ogystal â darparu gwasanaethau glanhau a gwaith ar y tiroedd

Darperir ein lleoliadau profiad gwaith ar sail wirfoddol, ac ni fyddant yn arwain at swydd gyflogedig. Fodd bynnag, byddwch yn dysgu gwybodaeth a sgiliau newydd.

Os hoffech gael profiad gwaith neu leoliad, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

 


Dim ond er mwyn prosesu eich cais am brofiad gwaith y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ar y ffurflen hon. I weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Adnoddau Dynol, cliciwch yma.