Enter keyword and hit enter

Cynlluniau Gofal Ychwanegol

Mae ein cynlluniau wedi’u llunio’n ofalus er mwyn galluogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gyda gwasanaethau eraill wrth law os oes eu hangen arnynt neu os ydynt yn dymuno eu cael.

Gall ein cynlluniau fod o fudd i bobl y mae angen amgylchedd byw rhagorol arnynt yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty, neu gynnig opsiwn da os nad yw eich cartref yn addas mwyach am fod eich amgylchiadau wedi newid. Yn gryno, mae ein cynlluniau’n helpu pobl i ofalu amdanynt eu hunain am fwy amser.

 

 

Prif Fanteision Gofal Ychwanegol

  • Cadw’n Annibynnol – cartrefi hunangynhwysol gyda lolfa, ystafell wely ac ystafell ymolchi breifat â chawod mynediad gwastad
  • Sicrwydd o ran Deiliadaeth – tenantiaethau sicr er mwyn gwneud y gorau o hawliau tenantiaeth
  • Cymorth mewn Argyfwng 24 Awr – tawelwch meddwl o wybod bod cymorth wrth law os bydd ei angen drwy’r Ganolfan Rheoli Argyfyngau
  • Gofal personol – gwasanaethau gofal ar y safle i helpu â gweithgareddau bob dydd
  • Diogelwch – drwy systemau intercom, mynediad drws a larwm tân datblygedig
  • Cymorth – system rheoli tai ar y safle er mwyn rhoi help a chyngor ynghylch tenantiaeth
  • Gweithgareddau Cymdeithasol – gwneud ffrindiau newydd a mwynhau cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llesiant
  • Arlwyo maethlon – bwyty sy’n gweini cinio wedi’i baratoi’n ffres bob dydd
  • Amgylchedd byw o ansawdd uchel – gan gynnwys siop goffi, lolfeydd cymunedol, golchdy, campfa, siop trin gwallt a gerddi wedi’u tirlunio

Sut i wneud cais?

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen hunanasesu y gallwch ei chael yn uniongyrchol gan y cynlluniau neu drwy Dîm Gweinyddu Thrive. Bydd ymgeiswyr sydd eisoes yn cael gofal personol yn cael eu cyfeirio at y darparwr Gofal Cymdeithasol perthnasol am Asesiad o Anghenion cyfredol er mwyn cael eu hystyried ar gyfer tenantiaeth.