Enter keyword and hit enter

Beth i'w wneud mewn argyfwng

Mewn argyfwng, os bydd rhywun yn ymosod arnoch neu’n eich cam-drin:

  • Ffoniwch 999 ar unwaith er mwyn rhoi gwybod i’r heddlu
  • Ceisiwch ddianc i fan diogel, os yw hynny’n bosibl
  • Symudwch i ardal ag allanfa (drws neu ffenestr); ceisiwch symud i fan sy’n golygu eich bod rhwng yr unigolyn sy’n eich cam-drin ac unrhyw lwybr dianc
  • Ceisiwch osgoi ardaloedd lle y gallai fod arfau posibl, er enghraifft y gegin neu’r ystafell ymolchi
  • Ceisiwch gadw pellter rhyngoch chi a’r unigolyn sy’n eich cam-drin
  • Os ydych eisoes wedi paratoi cynllun diogelwch, ystyriwch ddweud wrth gymydog amdano, ac, o bosibl, gytuno ar arwydd rhybudd.

Yn poeni am gam-drin domestig?

Os ydych yn credu eich bod yn adnabod rhywun a allai fod yn dioddef cam-drin domestig, y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw ei gefnogi, gwrando arno, a bod yn agored eich meddwl.

Efallai na fydd y dioddefwr am gyfaddef ei fod mewn perthynas gamdriniol. Fel rhywun o’r tu allan, gall fod yn anodd deall pam nad yw dioddefwr yn gadael cydberthynas gamdriniol, neu pam y mae’n dychwelyd ati, ond mae’n bwysig bod y dioddefwr yn gwybod eich bod yno i’w gefnogi a’i helpu pan fydd angen hynny fwyaf.

Nid yw’n hawdd cefnogi rhywun sy’n cael ei gam-drin.  Mae nifer o sefydliadau a all gynnig cymorth a chyngor i chi a’r unigolyn dan sylw. Ewch i’n tudalen ‘Sefydliadau a all helpu’ am ragor o wybodaeth.