Cam-drin corfforol
Ystyr cam-drin corfforol yw achosi niwed neu anaf i ddioddefwr ac, mewn achosion eithafol, ei anablu neu hyd yn oed ei ladd. Gall y sawl sy’n cam-drin achosi anaf corfforol drwy ddefnyddio arfau, ataliaeth gorfforol, neu ei faint neu gryfder ei hun.
Er mwyn cael ei ystyried yn achos o drais neu gam-drin corfforol, nid oes rhaid i anaf fod yn ddifrifol ac ni fydd o reidrwydd angen triniaeth feddygol. Gall cam-drin corfforol hefyd gynnwys: llosgi, ysgwyd, gwthio, pwnio, cnoi a chydio.
Cam-drin seicolegol
Gall cam-drin seicolegol gynnwys defnyddio trais neu fygwth gwneud hynny er mwyn codi ofn ar y dioddefwr. Gall y math hwn o gam-drin gynnwys: bychanu ac achosi embaras, rheoli’r hyn y gall y dioddefwr ei wneud a’r hyn na all ei wneud ac ynysu cymdeithasol oddi wrth ffrindiau ac aelodau o’r teulu.
Cam-drin ariannol
Cam-drin domestig ariannol yw’r math mwyaf cyffredin o gam-drin, er mai hwn, yn aml, yw’r math mwyaf anodd i’w adnabod. Bydd y sawl sy’n cam-drin yn atal ei bartner rhag cael arian neu wneud trafodion ariannol eraill, ac weithiau bydd yn ei wahardd rhag gweithio, gan olygu ei fod wedi’i ynysu’n gymdeithasol, sy’n arwain at gyfyngiadau tebyg i’r rhai a welir mewn achosion o gam-drin seicolegol.
Cam-drin rhywiol
Gall ymosodiad neu gam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un, gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt, o bosibl, yn gallu gwrthod oherwydd anabledd, salwch neu am eu bod dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol. Dyma’r tri phrif fath o gam-drin rhywiol:
- Defnyddio grym corfforol i orfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol yn erbyn ei ewyllys, p’un a gaiff unrhyw weithred rywiol ei chyflawni ai peidio
- Cael rhyw, neu geisio cael rhyw, gyda rhywun nad yw’n deall natur y weithred neu’r cais, neu nad yw’n gallu gwrthod neu gyfleu ei ddymuniad i wrthod
- Unrhyw gyswllt rhywiol camdriniol, o unrhyw fath.
Cam-drin Emosiynol
Mae cam-drin emosiynol yn golygu achosi rhywun i golli hunan-barch neu hunan-werth, a gall gynnwys sylwadau sarhaus a beirniadol parhaus a didostur gyda’r nod o fychanu neu ddilorni’r dioddefwr. Mae’r math hwn o gam-drin yn aml yn gysylltiedig â mathau eraill o gam-drin domestig i gael rheolaeth dros y dioddefwr, a gall ‘creithiau’ emosiynol yn aml fod mor niweidiol â rhai corfforol.