Enter keyword and hit enter

Tai â Chymorth

Rydym yn gweithio gyda darparwyr cymorth eraill i ddarparu cartrefi i bobl ag anghenion cymorth ychwanegol amrywiol, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu, pobl ddigartref o bob oed, pobl ifanc sy’n gadael y system ofal, merched sy’n dianc rhag cam-drin domestig, pobl sy’n adfer ar ôl camddefnyddio sylweddau a phobl ag anghenion iechyd meddwl.

Mae ein tîm Thrive hefyd yn darparu Gwasanaeth Cymorth Fel y Bo’r Angen yng Nghaerdydd mewn partneriaeth â Byddin yr Iachawdwriaeth a phrosiect tai arbenigol yng Nghaerdydd o’r enw PREP, sy’n helpu pobl sy’n wynebu perygl o golli eu cartref a’r rhai y mae angen cymorth arnynt i reoli eu tenantiaethau ac i fyw’n annibynnol.

Mae gennym raglen ddatblygu weithredol sy’n darparu tai o ansawdd i bobl ag anghenion cymorth. Isod ceir rhai enghreifftiau diweddar o’r datblygiadau hyn: