Enter keyword and hit enter

Arwyddion cam-drin domestig

Mae’n bosibl y bydd dioddefwyr cam-drin domestig yn dangos yr arwyddion canlynol:

  • Anafiadau corfforol
  • Esgusodion dros anafiadau rheolaidd
  • Straen, pryder neu iselder
  • Diffyg hunan-barch
  • Hunanfeio
  • Absenoldeb o’r gwaith ac achlysuron cymdeithasol
  • Newidiadau o ran eu personoliaeth – bod yn nerfus neu ar bigau’r drain
  • Diffyg cyfathrebu annibynnol
  • Yn yfed mwy o alcohol neu’n cymryd mwy o gyffuriau
  • Prinder arian
  • Difrod i eiddo.

Mae pob achos o gam-drin domestig yn wahanol, ond gall arwyddion sy’n awgrymu bod rhywun yn eich cam-drin gynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Eich bwlio
  • Rheoli eich ymddygiad
  • Cael eich gorfodi i gyflawni gweithred rywiol
  • Eich bychanu
  • Bloeddio a gweiddi arnoch yn gyson
  • Bygwth neu ddefnyddio trais
  • Dinistrio eitemau personol
  • Cyfyngu eich cyswllt ag aelodau o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr
  • Cadw golwg ar ble rydych
  • Eich cyhuddo chi, y dioddefwr, o gam-drin, yn hytrach na’r gwrthwyneb.