Enter keyword and hit enter

Sanatorium Road cam un

Ffeithiau allweddol

  • Lleoliad: Treganna, Caerdydd
  • Nifer y cartrefi: 74
  • Cartrefi ar gael: Dyraniad rhent fforddiadwy gan Gyngor Caerdydd
  • Cwblhau: 2025

Trosolwg

Mae United Welsh wedi cael caniatâd i adeiladu cymysgedd o fflatiau un, dwy a thair ystafell wely, ochr yn ochr â fflatiau i bobl hŷn ar safle’r hen ffatri laeth yn Sanatorium Road yn Nhreganna, Caerdydd.

Bydd 74 o’r cartrefi’n cael eu darparu yng ngham un, gyda’r 35 arall yn cael eu darparu yng ngham dau.

Bydd y tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan Celtic Offsite, menter gymdeithasol o fewn Grŵp United Welsh. Celtic Offsite fydd yn gweithgynhyrchu’r strwythurau ffrâm bren ar gyfer y cartrefi o’i ffatri yng Nghaerffili.

Dywedodd Teresa Barnes, Rheolwr Datblygu yn United Welsh:

“Rydym yn falch iawn o sicrhau caniatâd cynllunio i ddod â’r cartrefi hyn i Gaerdydd. Bydd y datblygiad hwn yn helpu i ddiwallu’r angen lleol am dai a darparu cartrefi ynni-effeithlon o ansawdd uchel i drigolion. Mae’r safle mewn man delfrydol yn y ddinas, gyda Threganna yn cynnig cyfoeth o barciau, siopau, a gweithgareddau ar garreg y drws.

“Rydym yn edrych ymlaen at symud y datblygiad hwn yn ei flaen a gweld y gwaith yn dechrau ar y safle.”

Bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu i safonau perfformiad ynni uchel, gan groesawu ffynonellau ynni adnewyddadwy fel paneli solar a phympiau gwres o’r ddaear i leihau allyriadau carbon a helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Bydd y cartrefi hefyd yn elwa o wefrwyr cerbydau trydan, felly gall y nifer cynyddol o yrwyr cerbydau trydan wefru eu ceir gartref.