Enter keyword and hit enter

Sefydliadau a all helpu

Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru

Gwasanaeth cymorth a gwybodaeth am ddim cyfrinachol i ferched, plant a dynion yng Nghymru sy’n dioddef cam-drin domestig a/neu gam-drin a thrais rhywiol ar hyn o bryd, neu sydd wedi eu dioddef yn y gorffennol.
0808 8010800

Cymorth i Ferched Cymru

Dyma’r sefydliad ambarél sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Ferched lleol ledled Cymru.   Mae’r grwpiau hyn yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i ferched a phlant sydd wedi dioddef cam-drin domestig neu sy’n dioddef cam-drin o’r fath ar hyn o bryd.
https://www.welshwomensaid.org.uk/cy/

Byw Heb Ofn

Mae trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar bobl o bob math ac o bob cefndir diwylliannol, cymdeithasol ac ethnig. Mae’n effeithio ar bawb yn yr un modd – y cefnog a’r tlawd, y rhai sy’n gweithio a’r rhai sy’n ddi-waith, yr hen a’r ifanc, ym mhob cwr o Gymru.
https://livefearfree.gov.wales/?skip=1&lang=cy

Refuge

Mae Refuge yn darparu gwybodaeth, cymorth a help ymarferol 24 awr y dydd i ferched sy’n dioddef trais domestig. Gall atgyfeirio merched a phlant at lochesi ledled y DU er mwyn eu galluogi i ddianc rhag cam-drin domestig.
Ffoniwch 0808 808 9999
www.nestwales.org.uk/

Action on Elder Abuse (AEA)

Mae AEA yn sefydliad arbenigol sy’n gweithredu ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
08088 088141
www.elderabuse.org.uk/

Gorwel

Mae Gorwel yn cefnogi’r rhai sy’n dioddef trais domestig, pobl ddigartref a phobl hŷn.
0300 111 212

BAWSO

Mae BAWSO yn sefydliad gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru i ferched a phlant duon a lleiafrifoedd ethnig sy’n dioddef cam-drin domestig. Mae’n gysylltiedig â Cymorth i Ferched Cymru ac yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymorth i ferched eraill.
0800 7318147 (llinell gymorth 24 awr)
www.bawso.org.uk/

Men’s Aid

Help a chymorth i ddynion sy’n cael eu cam-drin.
0333 567 0556
www.mensaid.co.uk

Men’s Advice Line

Llinell gymorth radffôn gyfrinachol i bob dyn sy’n dioddef trais domestig neu’n cael ei gam-drin gan bartner neu gyn-bartner. Mae’n rhoi cymorth emosiynol a chyngor ymarferol, a gall gynnig manylion gwasanaethau arbenigol a all eich cynghori ar faterion cyfreithiol, tai, cyswllt â phlant, iechyd meddwl a materion eraill.
0808 801 0327
info@mensadviceline.org.uk
www.mensadviceline.org.uk

Broken Rainbow

Llinell gymorth i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef trais domestig.
08452 60 44 60 (2pm-8pm ar ddydd Llun, 10am-1pm ar ddydd Mercher a 2-8pm ar ddydd Iau).
mail@broken-rainbow.org.uk
www.broken-rainbow.org.uk/

Respect

Sefydliad aelodaeth yn y DU i’r rhai sy’n cyflawni trais domestig neu drais yn y gwaith sy’n chwilio am help i roi’r gorau i hynny, dynion sy’n dioddef trais domestig a phobl ifanc sy’n defnyddio trais mewn cydberthnasau agos.
0808 802 4040
info@respectphoneline.org.uk
https://respect.uk.net/

Canolfan Genedlaethol Trais Domestig

Canolfan sy’n helpu pobl i gael eu hamddiffyn rhag y sawl sy’n eu cam-drin. Mae’n cynnig cymorth cyfreithiol am ddim i bawb sy’n goroesi trais domestig, er enghraifft drwy helpu unigolion i gael gwaharddeb gan eu llys lleol.
0800 970 2070
www.ncdv.org.uk

Cymorth i Ddioddefwyr

Elusen annibynnol sy’n ymroddedig i gefnogi dioddefwyr trais a digwyddiadau trawmatig, gan gynnig cymorth arbenigol i’w helpu i ymdopi ac i adfer i bwynt lle maent yn teimlo eu bod yn gallu ailgydio yn eu bywydau
0808 162 9111
https://www.victimsupport.org.uk/

Lifecentre

Elusen yn y DU sy’n cefnogi dynion a merched o bob oed sy’n goroesi achosion o dreisio a chamdriniaeth rywiol.
0808 802 0808
https://lifecentre.uk.com/

Living Without Abuse

Mae Living Without Abuse yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw’n ddiogel a heb ofn o ddioddef trais neu gael eu cam-drin. Mae’n cynnig cymorth i unrhyw un sy’n cael ei gam-drin neu’n dioddef trais gan bartner, cyn-bartner neu aelod o’r teulu, neu sy’n ofni hynny.
0808 80 200 28
https://www.lwa.org.uk/index.htm

SupportLine

Llinell gymorth sy’n cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol i blant, pobl ifanc ac oedolion ar unrhyw fater, gan gynnwys trais domestig.
01708 765200
info@supportline.org.uk

Prosiect Dyn

Llinell gymorth sy’n cynnig cymorth i ddynion sy’n dioddef trais domestig yng Nghymru.
0808 801 0321
www.dynwales.org