Enter keyword and hit enter

Mae gen i gartref gwag yn barod i'w osod

Empty Homes Wales logo United Welsh
Os oes gennych gartref gwag sy’n barod i’w osod, rydym yn cynnig gwasanaeth rheoli tenantiaeth cynhwysfawr ar gyfer tâl rheoli y cytunwyd arno (dim mwy na 10%).

Nid oes unrhyw ffioedd asiantaeth na llofnodi, a dim trafferth i chi.

Bydd incwm rhent eich eiddo yn dibynnu ar y lleoliad a nifer yr ystafelloedd gwely.

Os yw’r holl waith eisoes wedi’i gwblhau a bod yr eiddo’n barod i’w osod, gallwn ddileu’r trafferthion sy’n dod gyda bod yn landlord a chynnig pecyn rheoli tenantiaeth llawn i chi.

Mae’n syml. Dim gwariant cychwynnol. Dim ffioedd ymlaen llaw. Dim materion rheoli tenantiaeth. Byddwch yn cael tawelwch meddwl llwyr gan gymdeithas dai blaenllaw ag enw da.

Pecyn Rheoli Tenantiaeth

Unwaith y bydd eich eiddo yn barod i gael ei osod, byddwn yn rheoli’r broses gyfan gan gynnwys:

  • Marchnata’r eiddo
  • Dangos yr eiddo i ddarpar denantiaid
  • Gwiriadau cyfeirio tenantiaeth
  • Ymweliad Cynghorydd Ariannol i wirio bod y darpar denant yn gallu fforddio’r rhent cyn cael cynnig y llety.

Unwaith y dyrennir tenant byddwn yn:

  • Cymeryd rhestr eiddo a thynnu lluniau o’r eiddo cyn ei osod
  • Cofrestri’r tenant i denantiaeth byrddaliadol sicr
  • Trefnu ymweliad croesawu o fewn chwe wythnos i sicrhau bod tenantiaid wedi symud i mewn heb unrhyw broblem
  • Sicrhau bod cwmnïau cyfleustodau a’r cyngor yn cael gwybod am fanylion meddianwyr newydd a darlleniadau mesuryddion.

Yn ystod y denantiaeth byddwn yn:

  • Casglu’r rhent sy’n cynnig sawl ffordd i denantiaid dalu, gan gynnwys debyd uniongyrchol, archeb sefydlog, cardiau talu, taliadau cardiau debyd neu gredyd. Os derbynnir budd-dal tai gallwn hefyd drefnu i hyn gael ei dalu’n uniongyrchol i ni
  • Cymhwyso ein proses ôl-ddyledion rhent os na thelir rhent
  • Gweini unrhyw hysbysiadau cyfreithiol a mynychu’r llys lle bo angen
  • Archwilio’r eiddo bob chwe mis
  • Delio â phob mater tenantiaeth gan gynnwys unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cynnal a chadw yn ystod tymor y brydles:

  • Bydd yr holl atgyweiriadau o ddydd i ddydd yn cael eu gwneud gan gontractwr cymeradwy ac ychwanegir y costau at gyfrif perchennog y tŷ
  • Os bydd angen atgyweiriadau mawr i’r eiddo yn ystod tymor y brydles, bydd y Swyddog Tai Prydles yn cysylltu â pherchennog y cartref i drafod cyn i’r gwaith gael ei wneud
  • Bydd gan denantiaid fynediad at wasanaeth galw allan brys cynnal a chadw eiddo 24 awr
  • Mae gwasanaethu nwy blynyddol yn cael ei drefnu a’i wneud trwy Cartrefi Gwag Cymru
  • Bydd hyd y brydles yn cael ei bennu gan y costau gwaith.

Sut i wneud cais

Yn y lle cyntaf, cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar ein tudalen Help gyda chartrefi gwag.

I gwblhau eich cais llawn, bydd angen i chi ddarparu:

  • ID sy’n dangos eich llun h.y. pasbort, cerdyn trwydded yrru
  • Copïau swyddfa’r Gofrestrfa Tir
  • Cynllun llawr ar gyfer yr eiddo
  • Llythyr oddi wrth y benthyciwr morgeisi, os yw’n berthnasol, yn rhoi eu cytundeb i gofrestru’r brydles
  • Copi o’ch dogfen Polisi Yswiriant Adeiladau a ddylai gyfeirio at United Welsh fel parti â diddordeb a’i fod ar sail prynu-i-osod
  • Manylion darparwyr cwmni cyfleustodau
  • EPC (Tystysgrif Perfformiad Ynni), tystysgrif drydanol, tystysgrif nwy CP12