Enter keyword and hit enter

House4One - Maes Y Dderwen

Ffeithiau allweddol

  • Lleoliad: Nelson
  • Nifer y cartrefi: 4
  • Cartrefi sydd ar gael: Llety tymor byr i bobl ifanc
  • Prif gontractwyr: Beattie Passive a Kingfisher Developments Ltd
  • Cwblhau: Mawrth 2023

Trosolwg

Wedi’u hariannu gan Raglen Ariannu Digartrefedd Llywodraeth Cymru, bydd y fflatiau hunangynhwysol un ystafell wely hyn yn darparu llety ychwanegol i bobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd yng Nghaerffili.

Wedi’u lleoli ym Maes y Dderwen, cynllun tai â chymorth sy’n eiddo i United Welsh ac a reolir gan Grŵp Pobl, mae’r fflatiau ‘House4One’ yn cael eu cynhyrchu oddi ar y safle gan Beattie Passive gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern, sy’n golygu eu bod yn ynni effeithlon ac yn fwy caredig i’r amgylchedd.

Bydd y fflatiau yn darparu llety symud ymlaen i drigolion presennol cynllun Maes y Dderwen, gan eu cynorthwyo i fyw’n annibynnol a rhyddhau ystafelloedd i bobl ifanc eraill sy’n wynebu digartrefedd.