
Gall cartrefi gwag greu problemau i berchnogion tai, cymdogion, cymunedau ac awdurdodau lleol.
Gallant:
- Greu materion amgylcheddol
- Fod yn berygl os ydynt wedi dadfeilio
- Edrych yn anneniadol ac yn hyll os ydyn nhw wedi byrddio
- Leihau gwerth eiddo’r cymydog gymaint â 10%
- Ddenu gweithgaredd gwrthgymdeithasol, gan gynnwys llosgi bwriadol a’r ofn cynyddol o droseddu yn yr ardal
- Annog llai o fuddsoddiad yn yr ardal gan arwain at ddirywiad cymdogaeth
- Arwain at fwy o ddatblygiad ‘maes gwyrdd’ wrth i bwysau tai gynyddu
Llenwch y ffurflen isod os hoffech roi gwybod am gartref gwag sy’n achosi problemau yn eich cymuned.