Newid cyflenwyr
Os ydych yn ystyried newid cyflenwyr i osgoi’r cyfraddau ynni cynyddol newydd, argymhellir osgoi hyn ar hyn o bryd. Oherwydd cyflwr y farchnad, ar hyn o bryd nid oes tariffau marchnad agored sy’n rhatach na’r cap newydd.
Mae hyn yn golygu mai’r opsiwn gorau i’r mwyafrif ar hyn o bryd yw cadw at eich cyflenwr.
Cronfeydd caledi
- Os ydych chi’n poeni neu’n cael trafferth talu’ch biliau, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni cyn gynted â phosibl. Mae gan gwmnïau ynni mawr gronfeydd a all helpu os ydych mewn dyled, felly cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i wirio eu meini prawf cymhwysedd.
I wneud cais, bydd angen i chi lenwi llawer o ffurflenni. Os hoffech gael cymorth i wneud cais, mae ein tîm Cyngor Ariannol yn hapus i’ch helpu.
- Ffoniwch 0330 159 6080 (pwyswch 3)
- Siaradwch â ni ar we-sgwrs yn unitedwelsh.com (cliciwch y cylch glas ar y gwaelod ar y dde)
- E-bostiwch tellmemore@unitedwelsh.com.
Benthyciad Bil Ynni Hydref 2022
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi benthyciad bil ynni o £200 ar gyfer Hydref 2022 i gynnig cymorth yn ystod y flwyddyn anodd hon. Ym mis Hydref, bydd pob bil trydan yng Nghymru, Lloegr, yr Alban yn cael ei leihau £200 ar gyfer y mis hwnnw. Yna, o fis Ebrill 2023, ac am y pum mlynedd nesaf, bydd eich bil ynni ym mis Ebrill yn £40 ychwanegol. Mae hyn er mwyn adennill y benthyciad o £200 a dalwyd ym mis Hydref 2022.
Taliad Treth y Cyngor Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mesurau newydd i helpu pobl yn ystod yr argyfwng hwn. Os ydych yn byw o fewn bandiau treth gyngor A i D, byddwch yn derbyn taliad o £150. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud i hyn ddigwydd a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda mwy o wybodaeth wrth i fwy o newyddion gael ei ryddhau.
Help gyda thaliadau a datgysylltu