Enter keyword and hit enter

Tafarn Tyn Y Pwll gynt

Ffeithiau allweddol

  • Lleoliad: Trethomas, Caerffili
  • Nifer y cartrefi: 25
  • Cartrefi ar gael: Byw’n annibynnol i bobl 55+ oed
  • Prif gontractiwr: Pendragon Design Ltd a TC Consult
  • Cwblhau: Diwedd 2022

Trosolwg

Yn westy a thafarn yn flaenorol, roedd y Tŷ Yn Y Pwll yn cael ei adnabod yn lleol fel y ‘Pyke’ ac arferai fod y dollfa ar y ffordd rhwng Casnewydd a Chaerffili.

Yn anffodus, ar ôl i’r dafarn gau, roedd yr adeilad wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn, gan ddod yn hyllbeth yng nghanol tref Trethomas ac yn ganolbwynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd y datblygiad newydd hwn ar safle’r hen dafarn yn dod â 25 o fflatiau newydd i’r ardal, gyda chanolbwynt cymunedol bach ar y llawr gwaelod a pharcio i breswylwyr.

Bydd y cynllun yn cael ei reoli gan dîm Living Well United Welsh, sy’n rheoli cartrefi a gwasanaethau arbenigol i bobl hŷn. Mae’r tîm yn angerddol am weithio gyda thenantiaid hŷn i fyw’n dda mewn diogelwch, hapusrwydd ac iechyd da.