Enter keyword and hit enter

Cae Sant Barrwg

Ffeithiau allweddol

  • Lleoliad: Bedwas, Caerffili
  • Nifer y cartrefi: 60
  • Cartrefi ar gael: Rhent fforddiadwy a LCHO
  • Prif gontractiwr: Llanmoor Homes
  • Cwblhau: Diwedd 2022

Trosolwg

Mae datblygiad Cae Sant Barrwg wedi’i leoli ychydig oddi ar Heol Pandy, Bedwas ger canol tref Caerffili.

Bydd 42 o’r eiddo ar gael i’w rhentu’n gymdeithasol gyda United Welsh ar gyfer darpar denantiaid ar Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Caerffili.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • 12 fflat un ystafell wely
  • 18 tŷ dwy ystafell wely
  • 12 tŷ tair ystafell wely

Bydd 18 cartref hefyd yn cael eu gwerthu gan ein brand Cartrefi Harmoni, gan gynnig ffordd fwy fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf fynd ar yr ysgol eiddo gyda blaendal a morgais llai.

Bydd y cartrefi sydd ar werth trwy gynllun Perchnogaeth Cartrefi Cost Isel Cartrefi Harmoni yn cynnwys 10 tŷ dwy ystafell wely ac wyth tŷ tair ystafell wely.

Ewch i harmoni homes i weld cartrefi ar y farchnad nawr.