Enter keyword and hit enter

Cwm Ifor

Ffeithiau allweddol

  • Lleoliad: Penyrheol, Caerffili
  • Nifer y cartrefi: 19
  • Cartrefi ar gael: Dyraniad rhent fforddiadwy gan Gyngor Caerffili
  • Prif gontractiwr: Kingfisher Ltd
PLAY
PLAY

Cwm Ifor site progress

PLAY
PLAY

Mae'r 19 cartref i gyd wedi'u hadeiladu i safon Passivhaus

Trosolwg

Mae trigolion wedi symud i gartrefi ynni effeithlon newydd a adeiladwyd ar safle hen Ysgol Gynradd Cwm Ifor ym Mhenyrheol, Caerffili.

Mae’r 19 cartref i gyd wedi’u hadeiladu i safon Passivhaus; sy’n golygu eu bod yn defnyddio deunydd inswleiddio perfformiad uchel i wneud adeilad yn gwbl rydd o ddrafftiau, gan ddileu colled gwres i greu cartrefi ag effaith amgylcheddol isel iawn.

Gweithiodd United Welsh mewn partneriaeth â’r contractwr Kingfisher Developments Ltd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i adeiladu’r datblygiad, a dderbyniodd fuddsoddiad gan Gronfa Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lynn Morgan, Cyfarwyddwr Datblygu ac Adfywio United Welsh:

“Rwy’n falch iawn o weld preswylwyr yn symud i’r cartrefi newydd hyn ym Mhenyrheol.

“Mae’n bwysig i ni adeiladu cartrefi sy’n defnyddio technoleg werdd er mwyn i ni allu chwarae ein rhan i leihau effaith newid hinsawdd yng Nghymru, ac mae’r datblygiad hwn yn gam cadarnhaol arall i ddod â mwy o dai fforddiadwy o ansawdd uchel i fwrdeistref Caerffili.”

Mae’r 19 cartref newydd yn cynnwys 12 fflat un ystafell wely, 4 cartref dwy ystafell wely a 3 thŷ tair ystafell wely. Maent i gyd yn defnyddio ynni solar, a chan eu bod wedi’u hinswleiddio’n fawr i atal colli ynni, mae ganddynt systemau adfer gwres wedi’u gosod i gyflenwi aer ffres wedi’i hidlo.