Datblygiad o 74 o gartrefi yw Adams Court, sy’n darparu llety dros dro i bobl sy’n wynebu digartrefedd. Pan aethom ati i brynu’r adeilad, roedd angen ei adnewyddu’n sylweddol er mwyn ei godi i safon dderbyniol. Gwariwyd cyfanswm o £2 filiwn drwy osod ceginau, ystafelloedd ymolchi, systemau gwresogi, ffenestri a drysau newydd. Aethom ati hefyd i wella diogelwch ar y safle. Yn ystod y gwaith, gwnaethom sicrhau bod modd i ddau o’n tenantiaid gael eu cyflogi fel seiri coed dan hyfforddiant.
Heddiw, mae Adam’s Court yn gynllun gwych sy’n darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel.