Enter keyword and hit enter

Llety teulu Llaneirwg

Ffeithiau allweddol

  • Lleoliad: Llaneirwg, Caerdydd
  • Nifer y cartrefi: 18 fflat
  • Cartrefi sydd ar gael: Llety teulu tymor byr
  • Prif gontractwr: Hale Construction yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd
  • Cwblhau: Haf 2023

Trosolwg

Mae United Welsh yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ac United Welsh ar ddatblygu tir oddi ar Harrison Drive ger Canolfan Beacon yn Llaneirwg, Caerdydd.

Mae datblygu 18 o fflatiau newydd yn rhan o ymrwymiad Cyngor Caerdydd i ail-lunio gwasanaethau i deuluoedd sy’n profi digartrefedd. Bydd Cyngor Caerdydd yn cefnogi pobl sy’n byw yn y llety a bydd United Welsh yn gweithredu fel y landlord, yn rheoli gwaith atgyweirio a chynnal a chadw.

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y cyfleuster newydd yn darparu llety i deuluoedd sy’n canfod eu hunain yn ddigartref, tra bod datrysiad tai mwy parhaol yn cael ei ddarganfod. Bydd y ganolfan yn cynnig llety o ansawdd da gyda staff yn ymweld â’r safle yn ystod y dydd i gynnig darpariaeth megis gwasanaethau teulu Cymorth Cynnar, ymweliadau iechyd a chymorth rhianta.