Skip to main content

Diwylliant

Mae bywyd yn United Welsh yn troi o gwmpas ein diwylliant.

Rydym yn byw yn ôl ein gwerthoedd sy’n ein cysylltu a’n hysbrydoli. Maent yn llywio ein strategaethau yn ogystal â’r penderfyniadau a wnawn bob dydd.

Rydym yn dod ynghyd yn rheolaidd ac yn gofyn y cwestiynau pwysig. Rydym yn mwynhau gwneud pethau’n wahanol.

Nid dim ond gwneud swydd fyddwch chi gyda ni. Byddwch yn siapio’r ffordd rydym yn gweithio fel ein bod yn parhau i wneud y peth cywir i’r bobl sy’n gweithio i ni a’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw.

Yn United Welsh gallwch gynnig eich syniadau, cymryd perchnogaeth o’r hyn rydych yn ei wneud, a bod yn falch o’r hyn rydych yn ei gyflawni.

Gyda ni, bydd eich gwaith yn golygu llawer.

Yn 2019 gwnaethom ddathlu ein pen-blwydd yn 30 oed. Gwyliwch ffilm ein dathliad er mwyn clywed gan ein pobl ynglŷn â sut brofiad yw gweithio yn United Welsh.