Skip to main content

Cyngor

Blue and grey laptop graphic on a yellow background

Dechrau eich cais

I ddechrau gwneud cais gyda ni, bydd angen i chi gofrestru ar ein porthol swyddi.

Unwaith eich bod wedi cofrestru gallwch wneud cais am unrhyw swydd wag drwy fewngofnodi a defnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair o’ch dewis.

Caiff eich manylion eu cadw’n awtomatig yn eich cais, yn seiliedig ar y wybodaeth yr ydych wedi’i darparu’n flaenorol, felly ail-wiriwch y wybodaeth hon er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn dal yn gywir.

Gwneud cais am y rôl

  • Cliciwch ar y swydd yr hoffech wneud cais amdani ar y porthol a llenwch y ffurflen gais ar-lein.
  • Bydd disgwyl i chi uwchlwytho eich CV ac, yn dibynnu ar y swydd wag, efallai y gofynnir i chi ateb ychydig gwestiynau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi enghreifftiau clir o’ch sgiliau, gwerthoedd, profiad a gwybodaeth ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani.
  • Fe gewch y dewis i atodi unrhyw wybodaeth gefnogi at eich cais, ar ffurf PDF, dogfen neu URL gwefan. Gallwch fod mor greadigol ag y dymunwch!
  • Gellir cadw ffurflenni cais ar ganol eu llenwi cyn eu cyflwyno.
  • Wedi i chi gyflwyno eich cais ni allwch newid y wybodaeth rydych wedi’i darparu oni bai am eich manylion cyswllt. Felly, cofiwch ail-wirio eich bod wedi disgrifio sut mae eich gwerthoedd, sgiliau a phrofiad yn dangos mai chi yw’r person iawn am y swydd
  • Os oes genych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, mae ein Tîm Pobl yn barod i helpu. Gallwch gysylltu â ni drwy’r dulliau canlynol:
    • Sgwrs ar y we – Cliciwch ar yr eicon cylch glas ar waelod dde y sgrin
    • E-bostiwch ni yn peopleteam@unitedwelsh.com
    • Ffoniwch ni ar 0330 159 6080

Ar ôl i chi wneud cais

  • Unwaith eich bod wedi cyflwyno eich cais, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi’i dderbyn.
  • Wedi i ni ddarllen yr holl geisiadau ar gyfer y rôl, fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad cyn gynted â phosibl.
  • Os bydd eich cais yn cael ei gynnwys ar restr fer, fe fyddwn yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth ynglŷn â’r camau nesaf.
  • Cofiwch, gallwch bob amser fynd i’r porthol i wirio cynnydd eich cais, anfon neges at yr Arweinydd Recriwtio a diweddaru eich manylion cyswllt.