Skip to main content

Os ydych eisiau gwneud gwahaniaeth a bod gwella pethau yn bwysig i chi, byddem wrth ein bodd pe byddech yn gweithio gydag United Welsh.

Rydym yn adeiladu cartrefi, yn creu cymunedau ac yn gweddnewid bywydau, ac rydym am i’n pobl fwynhau eu rôl mewn gwneud i hynny ddigwydd.

Credwn fod amrywiaeth o ran profiad, safbwyntiau a chefndiroedd yn gwneud United Welsh yn well lle i weithio ac yn creu gwell canlyniadau i’n cymunedau. Yn ein barn ni, nid dim ond rhywbeth rydych yn ei wneud yw gwaith; mae’n rhywle y gallwch berthyn iddo a chyflawni eich potensial.

Os yw ein gwerthoedd ni’n cyd-fynd â’r rhai chi, a’ch bod chi’n teimlo ein bod y math o bobl yr hoffech weithio gyda nhw, ymunwch â ni.